Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-04-14: Papur 1
GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR
CLA353 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 (“y prif Reoliadau”) sy’n gwneud darpariaeth o ran y cyffuriau, y meddyginiaethau neu’r sylweddau eraill y caniateir eu harchebu ar gyfer cleifion wrth ddarparu gwasanaethau meddygol o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol o fewn ystyr adran 42 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
CLA354 - Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 i fewnosod darpariaethau newydd ac
ehangu darpariaethau presennol sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni adeiladau yng Nghymru.
CLA355 - Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3573 (Cy.316)) er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2013/46/EU yng Nghymru.
Mae rheoliad 2(3), (5) a (6) yn ei gwneud yn bosibl defnyddio proteinau llaeth geifr wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol.
Mae rheoliad 2(4) yn gostwng lleiafswm y lefelau protein a ganiateir mewn fformiwla ddilynol sydd wedi ei gweithgynhyrchu o hydrolysatau protein i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â fformiwla fabanod.
CLA356 - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Bydd y Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth
Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 ('Rheoliadau 1993')
i gymryd i ystyriaeth cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor
lleol a gyflwynir yn unol â gofynion y Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) a
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn)
(Cymru) 2013 ('Rheoliadau 2013').
Mae’r diwygiadau i Reoliadau 1993 yn galluogi i ostyngiadau sydd i’w gwneud yn unol â Rheoliadau 2013 gael eu hystyried o ran bilio am y dreth gyngor a’i gorfodi.
CLA357 - Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 ('Rheoliadau 1992') i gymryd i ystyriaeth gynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor lleol a gyflwynir, a hynny yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 ('Rheoliadau 2013') neu'r rhai sy'n gymwys, oherwydd diffyg, yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Mae’r diwygiadau i Reoliadau 1992 yn galluogi i ostyngiadau a wneir yn unol â Rheoliadau 2013 gael eu hystyried o ran bilio am y dreth gyngor a’i gorfodi.